![]() |
|
|||
|
Pwll Mawr
|
Cyflwyniad
Uchafbwynt yr ymweliad yw’r daith awr o hyd dan y ddaear, dan arweiniad cyn lowyr, sy’n mynd â chi i lawr yn y gawell i gerdded ar hyd y llwybrau tanddaearol, trwy ddrysau aer, stablau a pheiriandai a godwyd gan genedlaethau o lowyr. Ar yr wyneb cewch edrych ar adeiladau’r lofa - y peiriandy weindio, gweithdy’r gof a’r baddonau pen-pwll lle cewch ddysgu rhagor am hanes y glo a’r gwaith o’i dynnu o berfeddion y ddaear. |
|||
|